Ed Miliband
Mae Ed Miliband yn paratoi am ragor o wrthdaro gydag undebau llafur wrth iddo nodi cynlluniau i roi terfyn ar y system lle mae aelodau unigol o undebau yn gysylltiedig yn awtomatig i’r blaid Lafur.

Yn sgil y sgandal dewis ymgeisydd seneddol y Blaid Lafur yn Falkirk, bydd arweinydd Llafur yn defnyddio araith allweddol i gyflwyno beth sy’n cael ei ddisgrifio fel y “diwygiad mwyaf i’r blaid mewn cenhedlaeth”.

Bwriad y newidiadau yw cryfhau cysylltiadau’r blaid â’i haelodau unigol gan wanhau dylanwad yr undebau llafur.

Mae’n debyg y bydd y newidiadau yn cael eu cyflwyno a’u gweithredu’n ofalus ac yn fanwl tros amser.

Dywedodd ffynonellau o fewn y Blaid Llafur nad ydyn nhw’n credu y bydd angen newid rheolau’r blaid er bod ffurfioli’r trefniadau newydd gyda phleidlais yng nghynhadledd y blaid yn opsiwn.

‘Tanseilio statws undebau’

Ond cyn i Ed Miliband gyflwyno’i araith, mae Len McCluskey, ysgrifennydd cyffredinol Unite – yr undeb sydd wedi darganfod ei hun yng nghanol y sgandal Falkirk – wedi dweud y byddai’n gwrthwynebu’r cynllun.

Wrth ysgrifennu yn The Guardian, dywedodd: “Ni fyddai’r newid yn gweithio – byddai angen i Lafur uno gyda’r Torïaid i newid y gyfraith, byddai’n gwanhau gallu’r undebau i siarad dros ein haelodau a byddai’n tanseilio statws undebau fel sefydliadau gwirfoddol a hunanlywodraethol ymhellach. ”

O dan y cynlluniau, bydd  tair miliwn o aelodau’r undebau llafur sydd ar hyn o bryd yn gysylltiedig â’r Blaid Lafur drwy dalu ffioedd yn uniongyrchol i goffrau’r blaid yn gorfod penderfynu a fyddan nhw’n dymuno gwneud hynny.

Mewn newidiadau eraill, bydd Ed Miliband yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer dewis ymgeisydd nesaf Llafur ar gyfer maer Llundain trwy system ethol “primaries” yr Unol Daleithiau – gyda’r posibilrwydd y gallen nhw gael eu hymestyn i ddethol ymgeiswyr seneddol lle mae’r blaid leol yn wan.