Holly McClymont
Mae Gwylwyr y Glannau wedi rhoi’r gorau i chwilio am ferch 14 oed, a gafodd ei gweld mewn trafferthion yn y môr ger Ynys y Barri ddydd Sul.
Aeth Holly McClymont, o Glasgow, ar goll ar ôl mynd i drafferthion wrth nofio yn y môr gyda’i ffrindiau ym Mae Whitmore.
Mae’n debyg nad oedd y gwasanaethau brys wedi cael eu galw am hyd at awr ar ôl i Holly fynd i drafferthion ac mae ’na bosibilrwydd ei bod wedi cyrraedd y lan ac yna wedi mynd ar goll.
Roedd Holly McClymont ar wyliau yn y Barri gyda’i mam ac aelodau eraill o’i theulu.
Heddlu De Cymru fydd bellach yn gyfrifol am yr ymchwiliad.
Fe fydd timau arbenigol yn parhau i chwilio ar droed ac yn y môr heddiw gan ganolbwyntio ar arfordir Y Barri.
Mae’r heddlu hefyd yn edrych ar luniau camerâu cylch cyfyng ac mae taflenni yn apelio am wybodaeth wedi cael eu dosbarthu.
Maen nhw’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth amdani i ffonio’r heddlu ar 101.
Mae Holly yn groenwyn, 5’7” o daldra gyda gwallt hir du sydd wedi ei liwio’n goch. Roedd yn gwisgo ffrog amryliw pan gafodd ei gweld y tro diwethaf.