Mark Bridger
Mae Mark Bridger, a lofruddiodd y ferch 5 oed April Jones o Fachynlleth, wedi gorfod cael triniaeth ar ôl ymosodiad arno yn y carchar.

Yn ôl papur newydd The Sun, ymosododd cyd-garcharor ar Mark Bridger gyda llafn a thorri ei wyneb yng ngharchar Wakefield ddydd Sul.

Cafodd  Bridger, 47, ei gludo i’r ysbyty lleol lle cafodd bwythau i’w wyneb.

Cafodd Bridger ddedfryd o garchar am oes ym mis Mai ar ôl i’r rheithgor ei gael yn euog o gipio a llofruddio April Jones.

Roedd April wedi bod yn chwarae gyda ffrindiau yn agos i’w chartref ar stad Bryn Y Gog ym Machynlleth pan wnaeth Mark Bridger ei denu hi i mewn i’w gar.

Yn dilyn ei arestio, daeth yr heddlu o hyd i nifer o ddelweddau anweddus o blant ar ei gyfrifiadur.