Peter Moore
Fe fydd  Llys Iawnderau Dynol Ewrop yn penderfynu heddiw a yw pwerau llysoedd Prydain i ddedfrydu troseddwyr i garchar am oes yn annynol.

Mae’r llofrudd Peter Moore, o Fae Cinmel, ynghyd a Jeremy Bamber a Douglas Vinter yn honni bod eu dedfrydu i garchar am weddill eu hoes yn mynd yn groes i’w hawliau dynol.

Roedd barnwyr yn Llys Iawnderau Dynol Ewrop yn Strasbwrg wedi anghytuno ym mis Ionawr ond fe gytunodd Uwch Siambr y llys i glywed ail apêl ac fe fydd yn cyhoeddi dyfarniad bore ma.

Douglas Vinter, a oedd wedi trywanu ei wraig ym mis Chwefror 2008, oedd wedi gwneud yr apêl i’r Uwch Siambr. Mae’n golygu y bydd achos Peter Moore, a lofruddiodd pedwar dyn hoyw ym 1995, a Bamber, a lofruddiodd ei rieni, ei chwaer a’i dau blentyn ym 1985, hefyd yn cael eu hystyried.

Fe fydd y dyfarniad yn penderfynu a yw’n gyfreithiol i’r DU garcharu troseddwr am oes gyfan fel yn achos Mark Bridger a lofruddiodd y ferch 5 oed April Jones ym Machynlleth y llynedd.

O dan y gyfraith bresennol, mae’n annhebyg y bydd carcharorion sydd wedi cael dedfryd oes yn cael eu rhyddhau o’r carchar am fod eu troseddau’n cael eu hystyried yn rhai mor ddifrifol.