Llysgenhadon ifanc Gemau Cymru
Mae digwyddiad aml chwaraeon ar gyfer athletwyr ifanc gorau Cymru wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn ôl y trefnwyr, Urdd Gobaith Cymru.
Roedd Gemau Cymru yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd dros y penwythnos gyda dros 1,300 yn cystadlu mewn 12 maes cystadlu gwahanol, o hwylio a sboncen i bêl-rwyd a rygbi.
Ynghyd â’r cystadleuwyr, roedd 80 o wirfoddolwyr yn gweithio mewn 10 lleoliad gwahanol ar draws y ddinas gan gynnwys Pwll Rhyngwladol Caerdydd a Chanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru.
Yn ôl Gary Lewis, Cyfarwyddwr Chwaraeon yr Urdd: “Cafwyd cychwyn gwych i Gemau Cymru gyda’r seremoni agoriadol ddydd Gwener – roedd yn braf gweld cymaint o athletwyr llwyddiannus ar lefel Olympaidd a Pharalympaidd, megis Aled Sion Davies, Ieuan Lloyd a Frankie Jones, yn bresennol fel llysgenhadon i’r Gemau.”
Agorwyd y gemau gan y Gweinidog dros Ddiwylliant a Chwaraeon, John Griffiths.