Mae seiclwr wedi marw yn dilyn damwain yn Wrecsam prynhawn ma.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol yr Eglwys, yn Y Mwynglawdd ger Wrecsam am 2.48yh prynhawn ma.
Bu farw’r dyn, oedd yn ei 50au ac yn byw’n lleol, yn y fan a’r lle.
Dywed Heddlu’r Gogledd eu bod yn ymchwilio i’r amgylchiadau’n arwain at y digwyddiad ac yn apelio ar unrhyw un oed yn yr ardal ar y pryd ac a welodd y ddamwain i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Taclau on 0800 555 111.