Tywysog Charles
Mae bachgen ysgol o Abertawe wedi temtio Duges Cernyw gyda’i frecwast wedi ffrio.

Ar ymweliad ag Ysgol Gynradd Craigfelen yn y ddinas, gwnaeth Nathan Hills, sy’n 11 oed, addo coginio brecwast wedi ffrio i Camilla ar ei hymweliad nesaf.

Mae’r ysgol yn cymryd rhan mewn prosiect sy’n cael ei reoli gan yr Undeb Credydau Benthyciadau a Chynilon yn y ddinas.

Nod y prosiect yw dysgu plant a phobol ifanc sut i fuddsoddi arian er mwyn osgoi mynd i ddyled.

Maen nhw’n cynilo arian trwy gyfrifon sy’n cael eu rheoli gan yr ysgol.

Mae Nathan Hills wedi bod yn rhedeg caffi yn yr ysgol er mwyn cynilo arian i brynu esgidiau pêl-droed.

Wrth esbonio wrth Dduges Cernyw beth oedd e’n ei werthu, dywedodd Nathan: “Roliau bacwn ac ry’n ni wedi dechrau gwneud brecwast llawn nawr.

“Y mwyaf ry’n ni wedi’i ennill ar y tro yw £60.

“Ry’n ni’n codi £2 am frecwast llawn a £1 am rôl bacwn.”

Mae brecwast Nathan yn cynnwys bacwn, selsig, wyau, ffa pob a hash brown.

Addawodd Camilla y byddai’n prynu’r brecwast y tro nesaf.

Mae hi ar ymweliad ag Abertawe fel rhan o’i thaith flynyddol hi a Thywysog Cymru.