Llywelyn Thomas
Mae llys wedi clywed nad oedd gan bensiynwr a gafodd ei lofruddio “ddim byd gwerth ei ddwyn”.
Mae dau ddyn wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Caergrawnt, wedi’u cyhuddo o lofruddio Llywelyn Thomas, 76, oedd â chysylltiadau â phentref Cefn Cribwr ger Pen-y-bont ar Ogwr a Sain Ffagan.
Mae dyn arall wedi gwadu helpu’r ddau i ffoi yn dilyn y digwyddiad drwy yrru’r car.
Cafodd Llywelyn Thomas ei ddarganfod wedi marw yn ei gartref yn Chittering ger Caergrawnt ar Ragfyr 18.
Mae’r erlyniad yn honni ei fod e wedi cael ei glymu a’i daro a’i sathru gan Frankie Parker, 26, a Gary Smith, 21. Maen nhw’n gwadu ei lofruddio.
Mae Parker wedi cyfaddef ei fod e wedi dwyn o’r tŷ, ond mae Smith yn gwadu’r un cyhuddiad.
Mae tad Gary Smith, John Smith wedi ei gyhuddo o gynorthwyo troseddwyr, ond wedi pledio’n ddieuog.
Dywedodd mab Llywelyn Thomas, Richard wrth y llys fod ei dad wedi bod yn gwylio’r teledu pan adawodd y tŷ’r noson honno.
“Doedd bron dim byd o werth yn y tŷ.
“Doedd dim gemwaith gwerthfawr, mae’n bosib bod ychydig o arian ond rwy’n amau hynny’n fawr.”
Mae’r rheithgor wedi gweld fideo o Llywelyn Thomas yn gorwedd ar lawr yn farw yng nghyntedd y tŷ.
Diflannodd tair oriawr a waled.
Cafodd car Rover ei ddefnyddio i yrru’r ddau i ffwrdd, ond dywedodd Richard Thomas nad oedd y car yn gallu teithio’n gyflymach nag 20 milltir yr awr.
Mae’r achos yn parhau.