Carwyn Jones
Mae’r Gymraeg wedi cael mwy o gefnogaeth nag erioed o’r blaen, ond mae angen gwneud mwy, meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones.
“Mae’n bwysig dros ben i fi ein bod ni’n symud ymlaen,” meddai Carwyn Jones yn ei anerchiad i gloi Iaith Fyw: Y Gynhadledd Fawr yn Aberystwyth.
Y camau nesa’, meddai, fydd sicrhau cyngor TAN 20 cadarn i sicrhau lle i’r Gymraeg wrth ystyried polisïau cynllunio a chreu’r Safonau Iaith newydd.
Un nod arall oedd sicrhau bod rhagor o gyfleoedd i bobol ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol.
“Mae’n hynod o od eich bod chi’n gallu cael gwersi nofio trwy’r Gymraeg yng Nghaerdydd ond nid yng Ngheredigion,” meddai.
Fe bwysleisiodd mai dechreuad oedd y gynhadledd a bod yna “ddyletswydd arnon ni i gyd” i sicrhau dyfodol y Gymraeg.
‘Angen i benaethiaid gymryd cyfrifoldeb am yr iaith’
Dywedodd carwyn Jones y dylai prif weithredwyr a phenaethiaid cyrff cyhoeddus gymryd y cyfrifoldeb am hyrwyddo’r iaith Gymraeg o fewn eu sefydliadau.
Fe fyddai hynny’n dilyn esiampl Carwyn Jones ei hun, sydd wedi cymryd portffolio’r iaith Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.
Roedd yn credu fod hynny’n bwysig, meddai, oherwydd bod angen i’r Gymraeg gael “ei gwau” trwy holl waith y Llywodraeth.
“Fi’n credu y dylai penaethiaid gymryd y cyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg yn eu cyrff nhw, er mwyn gwneud yn siŵr nad yw’r Gymraeg yn cael ei hystyried yn rhywbeth mewn bocs bach,” meddai wrth y Gynhadledd Fawr ar yr iaith yn Aberystwyth.
Safonau ‘am roi cyfrifoldeb statudol’
Fe ddywedodd Comisiynydd y Gymraeg ei bod hi eisiau i safonau newydd y Gymraeg roi cyfrifoldeb statudol ar brif weithredwyr i sicrhau bod eu cyrff yn cadw at y safonau hynny.
“Os oes rhaid eu tywys nhw wrth eu trwynau at hynny, dyna wnawn ni,” meddai Meri Huws. “Ond gobeithio y byddwn ni’n gallu eu harwain nhw trwy eu calonnau hefyd.”
Fe gadarnhaodd Carwyn Jones y byddai’n rhaid aros tan ddiwedd y flwyddyn nesa’ am y safonau, ar ôl i’r Llywodraeth gymryd y cyfrifoldeb uniongyrchol oddi ar y Comisiynydd.