Darren Millar
Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar wedi croesawu’r newyddion bod rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi fersiwn ddrafft o’r ddogfen ‘Achos dros Newid’.
Cafodd y ddogfen ei llunio gan yr Athro Marcus Longley fel rhan o ymchwiliad annibynnol i ddiwygio gwasanaethau iechyd.
Cafodd ei gomisiynu gan Gonffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd.
Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod rhyddhau manylion y ddogfen ddrafft, ond mae’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi gorchymyn bod rhaid cyhoeddi’r ddogfen.
Bydd hefyd rhaid cyhoeddi manylion trafodaethau gwleidyddion ar y mater.
‘Ymyrraeth’
Cafwyd ffrae ynghylch y ddogfen yn y gorffennol, pan ddaeth i’r amlwg fod posibilrwydd fod rhai Aelodau Cynulliad, gan gynnwys y cyn-Weinidog Iechyd, Lesley Griffiths, wedi ymyrryd yn y broses o lunio’r ddogfen.
Cafodd pleidlais o ddiffyg hyder yn erbyn Lesley Griffiths ei chynnal, ond llwyddodd i aros yn ei swydd.
‘Tryloywder’
Dywedodd Darren Millar heddiw: “Rwy’n croesawu’r penderfyniad hwn.
“Mae’n llusgo Llywodraeth Cymru tuag at well dryloywder.
“Ers cryn amser, mae’r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi bod yn galw am gyhoeddi fersiynau drafft o’r ddogfen hon er mwyn sicrhau eglurder ynghylch pryderon fod Llywodraeth Cymru wedi ceisio lliwio’r ddogfen hon er mwyn gorfodi ad-drefnu dadleuol o wasanaethau iechyd.
“Mae tryloywder wrth wneud penderfyniadau’n hanfodol yn y llywodraeth, yn enwedig pan fo gweinidogion Llafur Cymru’n cyflwyno cynigion mor amhoblogaidd ac, o bosib, niweidiol i israddio unedau damweiniau ac achosion brys ac yn gorfodi cleifion diniwed i deithio’n bellach i dderbyn triniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd.
“Gobeithio y bydd gweinidogion Llafur Cymru’n cyhoeddi’r dogfennau hyn cyn gynted â phosib, ac nad ydyn nhw’n aros tan ddyddiad cau’r Comisiynydd Gwybodaeth – alla i ddim gweld rheswm dros oedi.”