Nid sigarét achosodd dân a laddodd tair cenhedlaeth o’r un teulu yn eu cartref yng Nghwmbrân fis Medi’r llynedd, meddai arbenigwr tân heddiw.

Bu farw Kayleigh Buckley, 17, ei merch chwe mis oed Kimberley, a’i mam Kim yn y tân a gymerodd eiliadau yn unig i ledaenu drwy’r tŷ.

Mae Carl Mills, sy’n 29 oed, yn gwadu llofruddio’r tair.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd gan Emma Wilson, gwyddonydd fforensig a ddywedodd: “Credaf fod y tân wedi ei gynnau gan ddeunydd yn y cyntedd.”

Roedd tystiolaeth Emma Wilson yn cyd-fynd â thystiolaeth arbenigwr arall sy’n credu fod y tân wedi ei gynnau yn fwriadol gyda fflam noeth. Dywedodd Emma Wilson fod y tân wedi achosi mwg trwchus, tywyll.

Clywodd y llys fod cymdogion Kayleigh Buckley wedi gorfod cilio yn ôl wrth i’r tan ledaenu drwy’r tŷ.

Clywodd y rheithgor fod y cyntedd, lle cychwynnodd y tân, yn cynnwys dau fin sbwriel ac oergell.

Dywedodd Emma Wilson fod bin sbwriel yn gallu achosi tân enfawr mewn ychydig iawn o amser.

Clywodd y llys hefyd gan ferch ysgol a oedd yn rhoi tystiolaeth trwy gyswllt fideo. Dywedodd ei bod wedi arogleuo petrol wrth iddi gerdded heibio tŷ Kayleigh Buckley ar noson y tân.

Mae’r erlyniad yn honni fod Carl Mills wedi cynnau’r tân ar ôl bod yn yfed gan amau fod Kayleigh

Buckley gyda dyn arall yn y tŷ. Clywodd y rheithgor fod Carl Mills wedi anfon negeseuon tecst yn

bygwth lladd y teulu a rhoi’r tŷ ar dân.

Mae’r achos yn parhau.