Bydd dwy o ganolfannau’r fyddin diriogaethol yn Llandudno a Chaernarfon yn cau wrth i’r Ysgrifennydd Amddiffyn gyhoeddi newidiadau mawr yn nhrefn y milwyr wrth gefn.

Mae 38 o ganolfannau yn y DU wedi eu clustnodi ar gyfer eu cau fel rhan o adolygiad y Llywodraeth i rôl y cefnlu. Ond bydd 13 canolfan newydd yn agor mewn lleoliadau newydd gan gynnwys Caerdydd.

Mewn datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Philip Hammond  fwriad y llywodraeth i recriwtio 12,000 yn fwy o filwyr rhan amser gan gynnig amodau gweithio ffafriol sy’n cynnwys gofal iechyd a phensiwn, werth miloedd o bunnoedd.

Dywedodd Philip Hammond: “Mae’r swydd y disgwylir i aelodau o’r cefnlu ei gwneud, yn newid. Felly mae’r ffordd yr ydym ni  yn eu trefnu a’u hyfforddi yn gorfod newid hefyd.”

O dan y cynlluniau newydd bydd y fyddin diriogaethol yn cael enw newydd, sef Byddin y  Cefnlu, gyda niferoedd yn cynyddu i 30,000 erbyn 2018. Bydd buddsoddiad o £110 miliwn yn cael ei wneud dros y pum mlynedd nesaf er mwyn gwneud lle i’r cynnydd yn nifer y cefnlu.

Ond mae rhai wedi beirniadu’r cynlluniau. Dywedodd yr Aelod Seneddol a’r cyn-filwr, Bob Stewart AS: “Rwy’n gobeithio’n fawr iawn y byddwn yn cael 30,000 o filwyr y cefnlu sydd wedi eu  hyfforddi. Ond yn y  blynyddoedd diwethaf nid yw’r broses recriwtio i’r fyddin diriogaethol a’r cefnlu wedi bod yn galonogol. Rwyf ychydig yn bryderus ynglŷn â’r cynlluniau.”