Y Senedd-dy, Canolfan Owain Glyndwr
Mae dyfodol un o ganolfannau treftadaeth bwysicaf Cymru dan fygythiad oherwydd prinder ymwelwyr a diffyg arian.

Mae Canolfan Owain Glyndŵr ym Machynlleth wedi elwa o waith adnewyddu sylweddol yn ddiweddar ond mae lleihad yn nifer y bobl sy’n ymweld â’r ganolfan ynghyd â phrinder arian yn bygwth cau’r safle.

Mae’r ganolfan yn olrhain hanes Owain Glyndŵr ac yn sefyll ar safle senedd arbennig 1404, lle cafodd ei goroni fel Tywysog Cymru. Mae oddeutu £250,000 wedi cael ei wario ar drawsnewid y ganolfan gydag arddangosfa ryngweithiol newydd yn ganolbwynt i’r safle.

Mae’r arddangosfa yn cael ei noddi a’i hyrwyddo gan Cadw a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Cadeirydd y Ganolfan, Henry Evans: “Y gwir amdani yw bod y ganolfan yn dioddef am nifer o resymau gan gynnwys diffyg ymwelwyr a hefyd ein bod wedi colli dau denant o’r safle. Yr hyn yr ydym ei angen yw cefnogaeth i sicrhau dyfodol y ganolfan bwysig yma.”

Dywedodd Henry Evans nad oedd yn gwybod beth fyddai’n digwydd i’r ganolfan ond ei fod yn gobeithio am y gorau.

Dywedodd llefarydd ar ran Cadw: “Mae’n flin gennym glywed fod Canolfan Glyndŵr yn cael trafferthion ariannol. Mae’n adeilad mor eiconig i bobl Cymru.

“Mae Cadw yn barod i weithio gyda pherchnogion y safle i ddarganfod ateb cynaliadwy i fynediad y cyhoedd i’r adeilad pwysig yma.”