Neil Fairlamb
Mae’r Ceidwadwyr wedi dewis Neil Fairlamb fel ymgeisydd ar gyfer isetholiad Ynys Môn.

Fe fydd yr ymgeisydd buddugol yn disodli Ieuan Wyn Jones, sydd yn gadael ei rôl fel Aelod Cynulliad i dderbyn swydd Prif Weithredwr Parc Menai.

Yn frodor o Fae Colwyn, astudiodd Neil Fairlamb ym mhrifysgolion Bangor a Rhydychen cyn mynd yn athro’r Clasuron.

Cafodd ei dderbyn i Eglwys Loegr yn 1993, ac astudiodd Ddiwinyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2000.

Bu’n offeiriad yn Aberystwyth, Meirionnydd ac Ynys Môn yn ystod y naw mlynedd ddiwethaf.

Bellach, mae’n Rheithor Biwmares ar Ynys Môn, ac yn gofalu am saith eglwys, yn ogystal â chyflawni rôl caplan nifer o sefydliadau’r ynys.

Wrth gael ei ddewis, dywedodd Neil Fairlamb: “Rwy wrth fy modd o fod wedi cael fy newis ac fe fyddaf yn canolbwyntio ar fuddsoddi ar gyfer yr ynys, a gwella iechyd a’r gymuned.

“Rwy am annog dyheadau unigolion, gyda synnwyr o gyfrifoldeb cymdeithasol.”