Carmel Napier
Mae Aelodau Seneddol wedi cael clywed bod Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Ian Johnston wedi bygwth creu embaras i’r Prif Gwnstabl, Carmel Napier.

Cafodd cyn-Brif Gwnstabl Heddlu Gwent, Carmel Napier ei gorfodi i ymddeol yn dilyn ffrae gyda Johnston.

Dywedodd wrth y Pwyllgor Dethol Materion Cartref fod Johnston wedi defnyddio “geiriau cas” yn ystod y cyfarfod pan ofynnodd iddi ymddeol.

“Roedd yn fygythiad clir. Ymddeol neu ymddiswyddo neu – geiriau cas mewn gwirionedd – fe fydda i’n creu embaras i chi ac yn cael gwared arnoch chi”.

Mae gan y Comisiynwyr Heddlu’r hawl i gyflogi neu gael gwared ar swyddogion yr heddlu.

Daeth cadarnhad fod Carmel Napier wedi ymddiswyddo ar Fehefin 7.

Honnodd Ian Johnston fod Carmel Napier yn anghytuno gyda chreu Comisiynwyr Heddlu a Throsedd.

‘Bwlio’

Dywedodd hi fod Ian Johnston wedi darllen y llythyr yn mynnu ei bod hi’n ymddeol yn ystod cyfarfod ar Fai 23.

“Wnaeth e ddim dweud unwaith cyn Mai 23 fod ganddo fe unrhyw bryderon…”

“Ni fu unrhyw sgwrs neu ddadl am fy mherfformiad ac ymddygiad.

“Ni fu unrhyw drafodaeth oedd yn dweud bod angen i fi fynd i’r afael ag unrhyw bryderon oedd ganddo fe.

“Ni fu unrhyw broses HR, cyfweliadau a chyfarfodydd gyda fi lle gallai fod wedi mynegi ei bryderon a rhoi tystiolaeth i’w cefnogi nhw.

“Doedd dim arwydd ei fod e’n mynd i ddechrau camau ffurfiol.”

Dywedodd Carmel Napier fod Ian Johnston wedi rhuthro allan o’r swyddfa ar ôl mynnu ei bod hi’n ymddeol, heb roi cyfle iddi ymateb.

“Roedd tôn y ddogfen a’r ffordd y gwnaeth ei chyflwyno hi’n filain ac yn fwlio.

“Ro’n i’n teimlo bod y ddogfen yn anghywir, yn anghyfiawn ac yn annheg ond rwy’n Brif Gwnstabl proffesiynol ac mewn gwirionedd, rwy’n trin pob mater ag urddas a pharch.”

Honnodd Ian Johnston fod Carmel Napier wedi dweud wrth swyddogion yr heddlu i beidio â chysylltu ag Ian Johnston pan ddechreuodd yn y swydd o Gomisiynydd Heddlu.

Dywedodd: “I fi, doedd hynny ddim yn llawer o dystiolaeth fod y Prif Gwnstabl wedi cofleidio’r ddeddf seneddol oedd wedi creu’r comisiynwyr heddlu a throsedd.”

Fe fydd Ian Johnston yn rhoi tystiolaeth gerbron y pwyllgor ar 11 Gorffennaf.