Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi heddiw eu bod nhw’n diweddaru eu cynlluniau i ddileu tlodi.
Cafodd y cynllun gwreiddiol ei gyhoeddi fis Mehefin y llynedd.
Fel rhan o’r cynlluniau, fe fydd hyd at 5,000 o gyfleoedd hyfforddiant a gwaith yn cael eu cynnig i deuluoedd di-waith, ac fe fydd ymdrechion i wella addysg plant o gefndiroedd tlawd.
Rhai o’r targedau eraill yw:
– Lleihau nifer y bobol 16-18 oed nad ydyn nhw mewn gwaith, addysg na hyfforddiant i 9% erbyn 2017
– Lleihau’r bwlch cyflawni i blant 7 oed sy’n derbyn prydau bwyd mewn ysgolion o 10% erbyn 2017
– Gwella canlyniadau plant sy’n derbyn prydau bwyd fel bod 37% yn cael C yn Saesneg neu Gymraeg a Mathemateg erbyn 2017
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n gobeithio dileu tlodi ymhlith plant erbyn 2020 trwy’r cynllun.
Mae traean o blant Cymru’n byw mewn tlodi.
Aelod Cynulliad Llafur, Vaughan Gething sy’n gyfrifol am fanylion y cynllun yn ei rôl newydd fel Dirprwy Weinidog Dileu Tlodi.
Yn y cynllun gwreiddiol, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n ymroddedig i roi’r dechrau gorau posib i blant, yn enwedig o gefndiroedd tlawd.
Gwnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod flwyddyn yn ôl mai sicrhau addysg i blant oedd y ffordd orau o ddileu tlodi, ac fe wnaethon nhw addo dileu rhwystrau i addysg a hyfforddiant, gan gynnwys diffyg cludiant.
Mae’r cynlluniau’n cael eu lansio gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones, y Gweinidog Cymunedau a Dileu Tlodi, Jeff Cuthbert a’i ddirprwy, Vaughan Gething.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: “Mae’r cynllun hwn yn ymrwymiad clir, ar draws Lywodraeth Cymru, y byddwn ni’n defnyddio ein hadnoddau i helpu’r sawl sydd â’r anghenion mwyaf ac i atal cenedlaethau’r dyfodol rhag profi tlodi.”
Dywedodd Jeff Cuthbert: “Allwn ni ddim gwneud yn iawn am y cannoedd o filiynau o bunnoedd sy’n cael eu cymryd allan o gymunedau yng Nghymru trwy benderfyniadau Llywodraeth y DU.
“Ond fe fyddwn ni’n gwneud popeth allwn ni wneud y bobol dlotaf yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn well eu byd trwy wella sgiliau, gwella cyfleoedd o gael swydd a mynediad i’r holl wasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw.”
Ychwanegodd Vaughan Gething: “Dydyn ni ddim yn honni bod y cynllun hwn yn rhoi’r atebion i gyd.
“Fodd bynnag, rydyn ni’n gwneud mwy nag unrhyw lywodraeth arall yn y DU.
“Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i fwrw iddi i ddileu tlodi ac i wella bywydau’r bobol fwyaf difreintiedig yng Nghymru.”