Mae prif weithredwr Cyngor Caerffili ac un swyddog arall wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth ar ôl cael eu holi gan yr heddlu ar amheuaeth o dwyll a chamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Cafodd y prif weithredwr, Anthony O’Sullivan, a’r dyn arall eu harestio ddoe gan Heddlu Avon a Gwlad yr Haf mewn perthynas ag ymchwiliad i godiadau cyflog i 21 o uwch swyddogion Cyngor Caerffili’r llynedd.
Cafodd Anthony O’Sullivan ei wahardd o’i waith dros dro ym mis Mawrth ar ôl i Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) ddweud bod y modd y cafodd y codiad cyflog ei wneud yn anghyfreithlon.
Roedd y codiadau cyflog yn dilyn argymhelliad mewn adroddiad gan Anthony O’Sullivan. Fe fyddai’n golygu ei fod wedi cael codiad cyflog o £26,000.
Aeth cannoedd o weithwyr y Cyngor ar streic yn dilyn y newyddion.
Penderfynodd Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) bod Cyngor Sir Caerffili wedi rhoi codiadau cyflog annheg i nifer o’i brif swyddogion.
Dywedon nhw nad oedd y Cyngor wedi dilyn prosesau cywir ac wedi ymddwyn mewn modd amhriodol wrth roi codiadau cyflog o 30%.
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor ddoe: “Hysbyswyd y cyngor gan Heddlu Avon a Gwlad yr Haf fod dau o uwch swyddogion y cyngor wedi eu harestio ac yn cael eu holi. Rydym wedi cael ein cynghori gan yr heddlu y byddai’n annoeth gwneud unrhyw sylwadau pellach ar hyn o bryd ond rydym yn parhau i gydweithredu gyda’r ymchwiliad.”