Fe fydd 10 o Gymry yng ngharfan y Llewod ar gyfer y trydydd prawf yn erbyn Awstralia yn Sydney ddydd Sadwrn.

Mae’r clo Alun-Wyn Jones wedi’i enwi’n gapten yn absenoldeb Sam Warburton, sydd wedi anafu llinyn y gar.

Roedd disgwyl i ganolwr Iwerddon, Brian O’Driscoll gymryd yr awenau, ond dydy e ddim wedi’i enwi yn y garfan.

Roberts yn holliach

Mae Jamie Roberts wedi gwella o anaf ac yn dychwelyd i safle’r canolwr gyda’i gyd-Gymro, Jonathan Davies.

Mae’r bachwr Richard Hibbard a’r mewnwr, Mike Phillips yn symud o’r fainc i’r pymtheg sy’n dechrau.

Y Cymry eraill yn y tîm yw Leigh Halfpenny, George North, Adam Jones, Dan Lydiate a  Toby Faletau, tra bod Justin Tipuric ar y fainc.

Y tîm Gorau’

“Mae Brian yn chwaraewr gwych ac mae e wedi cael gyrfa anhygoel ond ar gyfer y prawf olaf, roedden ni’n teimlo bod presenoldeb Jamie Roberts yn cynnig rhywbeth mwy i ni” meddai hyfforddwr y Llewod, Warren Gatland

“Roedd Brian yn siomedig ond yn gwerthfawrogi ei fod e wedi cael gwybod cyn y cyhoeddiad.”

Hwn yw’r tro cyntaf yng ngyrfa O’Driscoll iddo gael ei ollwng o unrhyw dîm am resymau heblaw anaf.

Esboniodd Gatland fod y dewiswyr wedi dewis y tîm gorau ar y cyfan cyn mynd ati i ddewis yr arweinydd gorau o blith y pymtheg.

“Fe fydd Alun yn arwain o’r blaen ac mae e wedi bod yn rhagorol yn y gemau cychwynnol.

“Mae e wedi bod yn un o’r enwau cyntaf ar y daflen am y ddau brawf cyntaf.”

Fe fydd e’n bartner yn yr ail reng i’r Sais, Geoff Parling.

Dywedodd Alun-Wyn Jones: “Gobeithio fy mod i wedi cael fy newis am y ffordd rwy’n chwarae ac nid y ffordd rwy’n arwain.

“Mae cael fy newis ar gyfer y prawf olaf yn foment eithaf arbennig i fi, ond mae yna jobyn i’w gwneud o hyd.”

Ymchwiliad

Yn y cyfamser, mae Bwrdd Rygbi Awstralia wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu gofyn am ymchwiliad yn dilyn dau wrandawiad yn erbyn eu capten, James Horwill.

Cafwyd Horwill yn ddieuog yn y ddau wrandawiad o sathru ar ben Alun-Wyn Jones.

Roedd yna bryderon pe bai’n cael ei ganfod yn euog y byddai wedi methu’r trydydd prawf tyngedfennol.

Mae’n gyfartal 1-1 yn y gyfres hyd yma.

Carfan y Llewod: Leigh Halfpenny (Cymru), Tommy Bowe (Iwerddon), Jonathan Davies (Cymru), Jamie Roberts (Cymru), George North (Cymru), Jonny Sexton (Iwerddon), Mike Phillips (Cymru); Alex Corbisiero (Lloegr), Richard Hibbard (Cymru), Adam Jones (Cymru), Alun-Wyn Jones (Cymru, capten), Geoff Parling (Lloegr), Dan Lydiate (Cymru), Sean O’Brien (Iwerddon), Toby Faletau (Cymru).

Eilyddion: Tom Youngs (Lloegr), Mako Vunipola (Lloegr), Dan Cole (Lloegr), Richie Gray (Yr Alban), Justin Tipuric (Cymru), Conor Murray (Iwerddon), Owen Farrell (Lloegr), Manu Tuilagi (Lloegr).