Geraint Thomas
Mae’r seiclwr o Gymru, Geraint Thomas yn parhau i fod yn râs Tour de France er ei fod wedi torri ei glun.

Roedd y seiclwr o Gaerdydd ymhlith nifer a ddisgynnodd yn ystod penwythnos agoriadol y ras ond mae’n benderfynol o fwrw ymlaen.

Dywedodd: “Rwy’n teimlo’n well heddiw o’i gymharu â ddoe ac roeddwn yn teimlo’n well ar ddiwedd y ras nag oeddwn ar y dechrau.”

Roedd angen cymorth ar Geraint Thomas i godi ei goes dros drawst ei feic ac mae wedi gorfod ymweld â meddyg ei dȋm ar sawl achlysur yn dilyn y ddamwain ddydd Sadwrn.

Heddiw bydd disgwyl i’r seiclwyr deithio 25 cilomedr o amgylch Nice ond mae disgwyl i Geraint Thomas adael y ras yn gynnar oherwydd ei anaf.

Dywedodd rheolwr cyffredinol Tȋm Sky, Dave Brailsford: “Mae’n afresymol disgwyl llawer ganddo yn sgil ei anaf, felly bydd rhaid i ni ddelio â hynny.”