Fe fydd capten Awstralia, James Horwill ar gael i herio’r Llewod yn y trydydd prawf tyngedfennol ddydd Sadwrn, ar ôl i fwrdd apêl ei ganfod yn ddieuog o sathru ar Alun-Wyn Jones yn yr ail brawf.
Roedd y Llewod wedi apelio yn erbyn y penderfyniad gwreiddiol ei fod e’n ddieuog, ond cytunodd y bwrdd nad oedd e wedi sathru ar glo’r Llewod yn fwriadol.
Yn dilyn y penderfyniad, dywedodd Horwill nad oedd e wedi gallu cysgu ers y digwyddiad wythnos yn ôl.
“Rwy’n teimlo rhyddhad mawr.
“Mae’r ddau wrandawiad wedi bod yn deg iawn.
“Fe wnes i ffeindio allan tua 10am (1am amser Prydain).
“Ro’n i’n hyderus gan fy mod i’n gwybod beth ddigwyddodd ac rwy’n falch bod y canlyniad cywir wedi dod yn y pen draw.”
Dywedodd mai’r trydydd prawf ddydd Sadwrn yw gêm fwyaf Awstralia ers ffeinal Cwpan y Byd yn 2003.
Roedd angen pwythau ar Alun-Wyn Jones yn ei ben yn dilyn y digwyddiad.
Dywedodd hyfforddwr Awstralia, Robbie Deans: “Roedd y broses yn un drylwyr, teg a chyfiawn.
“Dyna’r cyfan rydych chi am ei gael ar adegau fel hyn.”
Yn y cyfamser, mae amheuon am ffitrwydd Jamie Roberts a Mike Phillips.
Mae’r Llewod yn gobeithio y bydd y ddau Gymro ar gael, ond mae gan Roberts anaf i linyn y gar, tra bod Phillips wedi anafu’i benglin.
Bydd y garfan yn cael ei chyhoeddi fory.
Dywedodd rheolwr y Llewod, Andy Irvine: “Rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw’n barod.
“Fyddwn ni ddim yn gwneud penderfyniad terfynol tan fory.”