Mae pêl-droediwr oedd yn arfer chwarae i Manchester City wedi dychwelyd i’r carchar ar ôl cael ei ryddhau’n gynnar ar gam.
Cafodd Courtney Meppen-Walter ei garcharu am 16 mis am achosi marwolaeth trwy yrru’n ddiofal.
Cafodd dau o bobol eu lladd yn y gwrthdrawiad.
Mae e wedi treulio pedwar mis dan glo hyd yma.
Dychwelodd i garchar Lancaster o’i wirfodd neithiwr.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Gwnaeth swyddogion yr heddlu ymweld â chartref Meppen-Walter neithiwr a’i ddychwelyd i’r carchar yn Lancaster.
“Rydyn ni’n siarad â theulu’r rhai a ddioddefodd yn yr achos hwn i’w diweddaru nhw am yr hyn ddigwyddodd ac mae ein meddyliau’n parhau i fod gyda nhw yn y cyfnod anodd hwn.”
Ychwanegodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai: “Mae’r heddlu wedi cael eu hysbysu ar ôl i garcharor gael ei ryddhau ar gam ddydd Llun, Gorffennaf 1, er mwyn sicrhau ei fod e’n cael ei ddychwelyd i’r ddalfa ar unwaith.
“Mae rhyddhau ar gam yn beth prin iawn ac rydyn ni’n ymdrin ag unrhyw achos yn ddifrifol iawn.
“Fe fydd ymchwiliad i weld beth oedd yr amgylchiadau a arweiniodd at gael ei ryddhau.”
Cafodd ei garcharu ar Chwefror 28, ac mae disgwyl iddo dreulio wyth mis dan glo.
Fe allai gael ei ryddhau’n gynnar trwy wisgo tag electronig.
‘Siomi’n fawr’
Roedd teulu’r ddau fu farw wedi dod i Brydain o Afghanistan i ffoi rhag y rhyfel yno.
Dywedodd y teulu mewn datganiad trwy eu cyfreithiwr: “Mae’r newyddion am ryddhau Meppen-Walter o’r carchar wedi fy siomi’n fawr.
“Roedd ei ddedfryd wreiddiol o 16 mis am achosi marwolaeth fy ngŵr a’i chwaer trwy yrru’n ddiofal yn annigonol yn y lle cyntaf.
“Mae e nawr wedi cael ei ryddhau ar ôl pedwar mis yn unig, sy’n chwarter ei ddedfryd.
“Rwy’n teimlo fy mod i wedi fy ngadael i lawr gan y system gyfiawnder.”