Mae golwr Y Bala, Ashley Morris wedi dweud ei fod e’n “gyffrous iawn” wrth feddwl am herio Levadia Tallinn o Estonia yng Nghynghrair Europa nos fory.

Fe fydd y gêm yn cael ei chynnal yn Y Rhyl.

Dywedodd wrth wefan Uwch Gynghrair Cymru: “Rwy’n credu gallwn ni, ac y dylen ni, ddisgwyl cynnydd ond yr hyn sy’n bwysig yw bwrw iddi, gweithio’n galed a chadw disgyblaeth er mwyn bod â siawns.”

Ddeng mlynedd yn ôl, roedd tîm Y Bala yn chwarae mewn parciau yng ngogledd Cymru.

Ychwanegodd Ashley Morris: “Wrth gwrs, rwy’n falch iawn ac yn gyffrous iawn o fod wedi chwarae fy rhan i helpu’r Bala i sicrhau pêl-droed ar lefel Ewropeaidd.

“Fe fydd cynrychioli’r Bala yn Ewrop yn sicrhau balchder lleol anferth ac rydyn ni i gyd am ddefnyddio’r balchder hwnnw i’n helpu ni i roi’r Bala ar y map.

Fe fydd Y Bala heb rai o’u chwaraewyr gorau nos fory, gan fod prif sgoriwr y tymor diwethaf, Lee Hunt a Jon Irving wedi gadael y clwb.

Ychwanegodd: “Mae’n ergyd drom.

“Fe wnes i bleidleisio dros John fel fy hoff chwaraewr yn ystod y tymor ac yn amlwg, mae Lee wedi sgorio tipyn o goliau felly fe fyddwn ni’n gweld eisiau’r safon yna yn y blaen, ond mae wedi dod â ni’n nes at ein gilydd fel grŵp o chwaraewyr ac mae’r chwaraewyr mae Colin [Caton, y rheolwr] wedi dod â nhw i mewn yn ein cryfhau ni.

“Rwy’n siŵr y bydd chwaraewyr eraill yn camu i fyny ac yn dangos na fyddwn ni’n gweld eu heisiau nhw gymaint ag y mae pobol yn ei feddwl.”

Mae Levadia Tallinn eisoes wedi chwarae 16 o gemau’r tymor hwn, ond mae tymor Uwch Gynghrair Cymru bellach wedi dod i ben.

Ychwanegodd: “Fe fydd fy mhlant yn cerdded ar y cae efo fi ac fel plentyn, mi wnes i gerdded ar y cae efo fy nhad innau a dydach chi ddim yn sylweddoli pa mor bell ydach chi wedi dod.

“Yn sicr, fe fydd yna straeon da i ddod o’r profiad a rhywbeth i’w adrodd ymhen blynyddoedd i ddod, a straeon y gall fy mhlant eu dweud wrth eu ffrindiau.”