Fe fydd Cymru’n croesawu’r Gystadleuaeth Ffwtsal UEFA gyntaf erioed yn ddiweddarach y mis yma.
Bydd rhai o gemau rhagbrofol y gystadleuaeth yn cael eu cynnal yn House of Sport II yng Nghaerdydd rhwng Gorffennaf 27 a 30.
Mae ffwtsal yn fersiwn ychydig yn wahanol o bêl-droed pump bob ochr, ac mae ei gwreiddiau yn Ne America.
Fe fydd Clwb Ffwtsal Wrecsam yn cynrychioli Cymru, ar ôl iddyn nhw ennill Cwpan Ffwtsal Cymdeithas Bêl-droed Cymru ym mis Mawrth.
Dim ond TNS a Wrecsam sydd wedi cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth yn y gorffennol.
Bydd enillydd y grŵp o bedwar tîm yn symud ymlaen i’r rownd nesaf.
49 o dimau fydd yn cystadlu am y Gwpan.
Wrth groesawu’r gystadleuaeth i Gymru, dywedodd Pennaeth Cystadlaethau Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Andrew Howard: “Dyma bluen wych yng nghap Cymdeithas Bêl-Droed Cymru.
“Rydyn ni’n dod â chystadleuaeth Ffwtsal Ewrop i Gymru am y tro cyntaf ac fe ddylai fod yn sbardun go iawn i gael rhagor o sylw i’r gêm fach.
“Mae hyn hefyd yn newyddion gwych i’r diwydiant hamdden yng Nghaerdydd gan y bydd y twrnamaint yn dod â mwyn na £50,000 i Gymru dros y pum niwrnod.”
Ychwanegodd Swyddog Datblygu Ffwtsal Ymddiriedolaeth Bêl-Droed Cymru, Richard Gunney: “Dyma newyddion cyffrous a gwych i ddatblygiad Ffwtsal yng Nghymru.
“Fe fydd yr enillwyr blaenorol Barcelona, ynghyd â chlybiau adnabyddus fel Lisbon a Moscow yn ffefrynnau i godi’r tlws felly mae safon y gystadleuaeth hon yn uchel iawn.
“Fe fydd yn gyfle gwych i chwaraewyr, hyfforddwyr a gwylwyr i weld Ffwtsal o’r radd flaenaf ac yn her wych i’n pencampwyr cartref ni, Clwb Ffwtsal Wrecsam.”