Daeth cadarnhad y bore ma na fydd capten y Llewod, Sam Warburton ar gael ar gyfer y trydydd prawf tyngedfennol yn erbyn Awstralia yn Sydney ddydd Sadwrn nesaf.
Daeth Warburton oddi ar y cae yn ystod yr ail brawf yn Melbourne dros y penwythnos, ac mae disgwyl iddo gael sgan ar ei goes yn ystod y dyddiau nesaf.
Mae disgwyl i’r canolwr Brian O’Driscoll gael ei enwi’n gapten yn lle Warburton.
Fe allai Sean O’Brien gael ei enwi yn safle’r blaenasgellwr ynghyd â Dan Lydiate a Jamie Heaslip yn y rheng ôl.
Mae’r Llewod eisoes heb brofiad y clo Paul O’Connell, sydd wedi torri ei fraich.
Maen nhw’n anelu am eu buddugoliaeth gyntaf mewn cyfres ers eu taith i Dde Affrica yn 1997.
Bydd carfan y Llewod yn cael ei chyhoeddi ddydd Mercher.
Dywedodd Sam Warburton: “Rwy’n hynod siomedig i fod allan o’r daith oherwydd anaf wrth i ni symud i Sydney ar gyfer y gêm dyngedfennol.
“Rwy’n dymuno’n dda i’r tîm a gobeithio y galla i chwarae rhyw ran yn y paratoadau yr wythnos hon.
“Rwy’n hyderus y gall y bois orffen eu gwaith a sicrhau buddugoliaeth yn y gyfres.”