Nico Rosberg sydd wedi ennill ras y Grand Prix Prydeinig yn ei gar Mercedes yn Silverstone y prynhawn ’ma.

Roedd yn ras llawn drama, gyda nifer o’r gyrwyr yn cael problemau gyda’u teiars.

Dechreuodd Lewis Hamilton y ras ar y rhes flaen ond mi gafodd yntau broblem efo teiars ei gar Mercedes ac ar un adeg disgynnodd i’r safle olaf. Ond fe frwydrodd ei ffordd i’r bedwerydd safle erbyn diwedd y ras.

Mark Webber o dîm Red Bull oedd yn ail a Feranda Alonso o Ferrari oedd yn drydydd.

Roedd yn rhaid i’r Almaenwr Sebastian Vettel ro’i gorau i’r ras ond y fo sy’n parhau i fod ar frig y Bencampwriaeth.