Mae tîm Rygbi Saith Bob Ochor Cymru wedi colli eu gêm gogynderfynol ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd ym Moscow.
Seland Newydd oedd eu gwrthwynebwyr, ac fe enillon nhw o 26 pwynt i 10.
Dywedodd capten Cymru, Lee Williams, ar ddiwedd y gêm ei fod yn hynod o siomedig. Roedden nhw wedi gwneud gormod o gamgymeriadau, meddai.
Mi wnaeth Lloegr guro Awstralia o 21 pwynt i 17 yn eu gêm nhw. Mi fydd Lloegr yn wynebu Kenya yn y gêm gynderfynol. Fiji a Seland Newydd sy’n chwarae yn y gêm gynderfynol arall.