George Osborne
Mae’r Canghellor George Osborne wedi bod yn rhoi manylion ei adolygiad gwariant ar gyfer 2015/16.

Mae’n bwriadu cyflwyno toriadau gwerth cyfanswm o £11.5 biliwn ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf.

Dywedodd George Osborne fod yr adolygiad yn cynnwys “penderfyniadau anodd” ac “nad oedd ffordd hawdd o geisio dod a gwariant o dan reolaeth.”

Ond ychwanegodd bod camau’r Llywodraeth ers 2010 wedi dechrau lleihau’r diffyg ariannol a bod y wlad “allan o’r uned gofal dwys” ac yn dechrau gwella.

Fe fydd benthyciadau ar gyfer y flwyddyn yn £108 biliwn o’i gymharu â £157 biliwn o dan y Llywodraeth flaenorol.

Mae’r adolygiad gwariant heddiw yn seiliedig ar dair egwyddor sef diwygiad, twf a thegwch, meddai. Fe fydd cyllidebau addysg ac iechyd yn cael eu diogelu, meddai

Dyma’r prif bwyntiau:

Bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru, ynghyd a’r Alban a Gogledd Iwerddon, wneud arbedion o 2%,  gyda chyllideb i Gymru o £13.6 biliwn.

Ni fydd gostyngiad yng nghyllideb S4C. Dywedodd Huw Jones, cadeirydd Awdurdod S4C ar Radio Cymru prynhawn ma bod ’na “deimlad o ryddhad” o glywed y newyddion “gan fod pryder wedi ei fynegi y gallai’r canlyniad fod yn wahanol.”

Swyddfa Cymru yn gweld gostyngiad o 10% yn ei chyllideb.

Degau o filoedd o weithwyr yn y sector cyhoeddus yn colli codiad cyflog awtomatig. Bydd yn dod i ben yn y Gwasanaeth Sifil erbyn 2015/16 ac mae’r Llywodraeth hefyd yn bwriadu cyflwyno’r newidiadau i staff mewn ysgolion, y GIG, carchardai a’r heddlu.

Ymrwymiad o £50 biliwn o fuddsoddiad cyfalaf yn 2015, sy’n cyfateb i fwy na £300 biliwn ar gyfer cynlluniau isadeiledd gan gynnwys ffyrdd, rheilffyrdd, pontydd, band llydan, gwyddoniaeth ac ysgolion erbyn 2020. Bydd yn rhaid disgwyl tan yfory cyn clywed sut y bydd cynlluniau i wella traffordd yr M4 yn cael eu hariannu. Cyhoeddwyd heddiw hefyd bod Llywodraeth Prydain yn gorffen llunio ymateb i Gomisiwn Silk ac y bydd yn gwneud cyhoeddiad yn y dyfodol agos.

Gostyngiad o 7% yng nghyllideb yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.

Cyllideb y  Trysorlys a Swyddfa’r Cabinet yn gostwng 10% yn 2015/16.

Codiadau cyflog yn y sector cyhoeddus yn cael eu cyfyngu i 1% ar gyfer 2015/16.

Yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol yn cytuno ar doriad o 10% yn ei chyllideb.

Cyllideb y Swyddfa Dramor yn gostwng 8%.

Y Swyddfa Gartref yn gweld gostyngiad o 6% i £9.9 biliwn yn ei chyllideb adnoddau ond fe fydd cyllideb yr heddlu yn gweld llai o ostyngiad.