Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi methu cyrraedd eu targedau am y 12fed mis yn olynol, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Mae’r ffigyrau yn dangos mai dim ond 62.5% o ambiwlansys oedd wedi ateb y galwadau mwyaf argyfyngus o fewn 8 munud, tra bod y targed yn 65%.
Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Darren Millar AC fod y ffigyrau diweddaraf yma yn adlewyrchu cyflwr y Gwasanaeth Iechyd ac effaith toriadau’r Blaid Lafur o £800 miliwn ar y gwasanaeth.
Meddai: “Mae’r toriadau niweidiol yma, ynghyd â chynlluniau Llafur i israddio unedau damweiniau brys yn bygwth gwneud amser ymateb ambiwlansys yn anoddach i’w cyrraedd.”
Ychwanegodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kristy Williams AC,
“Mae’n warthus o beth fod y targedau yma ar draws Cymru yn cael eu methu. Mae targedau Cymru eisoes 10% yn is na rhai Lloegr a’r Alban, eto i gyd mae Cymru yn parhau i fethu cyrraedd y targedau yma.”