Mae Golwg360 wedi cael ar ddeall mai tri  ymgeisydd sydd yn y ras i gael eu dewis i geisio am sedd Ieuan Wyn Jones yn Ynys Môn.

Y tri yw’r newyddiadurwr Rhun ap Iorwerth, y Cynghorydd Ann Griffith a Heledd Fychan sydd ar hyn o bryd yn gyfarwyddwr polisi ar Bwyllgor Gwaith Plaid Cymru sy’n rol wirfoddol.

Fe gyhoeddodd Llywydd y Cynulliad prynhawn ma y bydd yr is-etholiad yn cael ei chynnal ar 1 Awst.

Ddoe cafodd Rhun ap Iorwerth ei gyfweld gan bwyllgor gwaith y Blaid ac yn ddiweddarach dywedodd ar ei gyfrif Twitter ei fod yn “ddiolchgar am gael fy nerbyn i Gofrestr Genedlaethol Ymgeiswyr Plaid Cymru.”

Ychwanegodd y byddai’n cynnig ei enw am yr enwebiad yn Ynys Môn bore ma.

Dywedodd y cynghorydd Ann Griffith, sy’n cynrychioli ward Bro Aberffraw ar Gyngor Ynys Môn, wrth Golwg360 ei bod hi wedi cael ei derbyn ar y gofrestr yn hwyr neithiwr a’i bod hithau hefyd am gynnig ei henw heddiw.

Y trydydd ymgeisydd fydd Heledd Fychan, er ei bod hi wedi bwriadu sefyll yn erbyn Siân Gwenllian yn y gobaith o gael ei henwebu yn ymgeisydd yn Arfon pan fydd Alun Ffred Jones yn rhoi’r gorau iddi yn yr etholiad nesaf.

Cyhoeddodd Ieuan Wyn Jones, yr AC presennol, wythnos diwethaf  ei fod yn gadael y Cynulliad er mwyn dechrau swydd fel Prif Weithredwr Parc Gwyddoniaeth Menai.

Gan fod yr isetholiad yn debygol o fod ym mis Gorffennaf, mae hi’n ras i ddewis ymgeisydd  Plaid Cymru a bydd yr hystings yn digwydd am 7yh nos Iau yn Ysgol Gyfun Llangefni.

Mae Golwg360 wedi cysylltu â Phlaid Cymru i weld os oes rhagor am ymgeisio ac yn disgwyl ymateb.