Mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones AC, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i recriwtio mwy o feddygon teulu yng Nghymru.
Mewn dadl ar ofal iechyd yn y Cynulliad neithiwr dywedodd Elin Jones y byddai hyd at 40% o feddygon teulu yng Nghymoedd y de yn ymddeol yn y degawd nesaf.
Dywedodd Elin Jones bod “rhaid i ni nodi ffyrdd newydd o gael meddygon teulu i’n cymunedau, gan gynnwys cymhellion ariannol i ddenu meddygon teulu sydd newydd gymhwyso i ardaloedd lle mae swyddi yn anodd eu llenwi.”
Cyfuno cyllidebau
Yn yr un ddadl dywedodd Elin Jones y dylid cyfuno cyllidebau gofal cymdeithasol a gofal iechyd.
Dywedodd fod hyn yn cynnwys rôl newydd i feddygon teulu o ran darparu gofal drwy’r dydd a nos i gleifion, gan ryddhau unedau Damweiniau ac Achosion Brys.
“Cred Plaid Cymru fod yn rhaid i ni ddileu’r muriau rhwng gofal cymdeithasol a gofal iechyd, gan integreiddio gwasanaethau a chyfuno cyllidebau i greu effeithlonrwydd yn ein system gofal iechyd,” meddai yn y siambr.