Carwyn Jones
Mae’r dyfalu wedi dechrau ynglŷn â phwy fydd yn olynu Leighton Andrews fel Gweinidog Addysg ar ôl iddo ymddiswyddo’n annisgwyl ddoe.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Carwyn Jones ad-drefnu ei gabinet heddiw yn dilyn y cyhoeddiad yn hwyr bnawn ddoe.

Roedd y pwysau ar Leighton Andrews wedi bod yn cynyddu ers iddo gael ei weld yn dal placard yn gwrthwynebu cau Ysgol Gynradd Pentre yn ei etholaeth yn y Rhondda – er bod y cyngor lleol yn dweud mai ei bolisïau ef ei hun oedd yn gyfrifol am hynny.

Roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi penderfynu y dylid cau’r ysgol am fod gormod o lefydd gwag yno.

Yr wythnos ddiwetha’, roedd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi beirniadu Leighton Andrews am brotest debyg yn erbyn cau gwasanaeth mewn ysbyty.

Dywed Leighton Andrews mai ei “ymrwymiad tuag at ei etholwyr” oedd wedi arwain at yr anghydfod. Fe awgrymodd Carwyn Jones yn ei lythyr i dderbyn ymddiswyddiad Leighton Andrews y gallai ddychwelyd i’r cabinet yn y dyfodol.

‘Angen gweinidog profiadol’

Mae undebau athrawon wedi mynegi sioc a phryder o glywed am ymddiswyddiad y Gweinidog Addysg.

Dywedodd Dr Philip Dixon, cyfarwyddwr ATL Cymru: “Er nad oeddan ni bob amser wedi gweld llygad yn llygad gydag ef ynglŷn â materion addysg ni all unrhyw un amau ei ymrwymiad i wella perfformiad y system addysg yng Nghymru. Mae hi’n adeg dyngedfennol yng Nghymru o ran diwygiad ac adnewyddiad.

“Mae’n hanfodol bod olynydd Leighton Andrews yn gredadwy, ac yn bwysicach na hynny, yn gymwys i’r swydd. Gyda PISA ar y gorwel a disgwyl canlyniadau TGAU a Lefel A rydym angen rhywun sy’n gallu ennyn hyder yn y proffesiwn a’r rhieni.”

Dywedodd Elaine Edwards, ysgrifennydd cyffredinol UCAC ar y Post Cyntaf bore ma bod Leighton Andrews wedi bod yn “angerddol dros addysg ond, yn fy marn i, wedi trio gwneud pethau yn rhy gloi.”

Ychwanegodd bod angen cael “gweinidog profiadol” a fydd yn gallu ymateb yn gyflym i’r heriau sy’n wynebu’r byd addysg.

‘Sefydlu gweledigaeth gadarn’

Mae RhAG (Rhieni dros Addysg Gymraeg) yn galw ar olynydd Leighton Andrews i sicrhau fod addysg Gymraeg yn parhau’n flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru.

Mae RhAG yn pwyso am gysondeb o ran polisi tuag at addysg Gymraeg ac yn dweud bod angen i’r Gweinidog newydd gadarnhau ymroddiad i hynny o’r cychwyn cyntaf.

Dywedodd Lynne Davies, Cadeirydd RhAG, “Hoffwn ddiolch i Leighton Andrews am ei ymrwymiad i Addysg Gymraeg yn ystod ei gyfnod fel Gweinidog Addysg ac am wireddu addewid Cytundeb Cymru’n Un trwy gyflwyno’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg cyntaf yn hanes Cymru.

“Ar drothwy cyfnod tyngedfennol lle rydym yn aros i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yr ALl droi o fod yn gynlluniau gwirfoddol i fod yn offerynnau statudol, mae’n hanfodol fod y Gweinidog newydd fydd yn cymryd yr awenau yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi’i gyflawni gan sicrhau dilyniant di-dor o ran agwedd a meddylfryd.

“Mae gwaith mawr eto i’w wneud o ran cyflawni targedau’r Strategaeth ac mae’n allweddol fod yr olynydd yn sefydlu gweledigaeth gadarn a chefnogol fydd yn sail gref i gyrraedd hynny. Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda’r unigolyn hwnnw maes o law.”