Mae mwy na 2,000 o swyddi dan fygythiad yng nghwmni yswiriant Direct Line.

Mae’r cwmni yswirio ceir wedi cyhoeddi cynlluniau i fwy na dyblu eu harbedion ariannol i fwy na £200 miliwn erbyn 2014.

Dywed Direct Line y bydd staff yn eu pencadlys a swyddi cynorthwyol yn cael eu heffeithio gan y toriadau ond eu bod yn gobeithio adleoli staff lle bo hynny’n bosib.

Mae’r cwmni’n cyflogi 14,400 o bobl mewn 16 o safleoedd yn y DU gan gynnwys canol Llundain, Croydon, Bromley, Leeds, Glasgow a Manceinion.

Mae Direct Line eisoes wedi diswyddo 1,200 o staff ers mis Awst y llynedd.