Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi ymddiswyddo tros brotest yn erbyn cau ysgolion.
Roedd y pwysau arno wedi cynyddu ers iddo gael ei weld yn dal placard yn gwrthwynebu cau Ysgol Gynradd Pentre yn ei etholaeth yn y Rhondda – er fod y cyngor lleol yn dweud mai ei bolisïau ef ei hun oedd yn gyfrifol am hynny.
Roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi penderfynu y dylid cau’r ysgol am fod gormod o lefydd gwag yno.
Yr wythnos ddiwetha’, roedd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi beirniadu Leighton Andrews am brotest debyg yn erbyn cau gwasanaeth mewn ysbyty.
Dywed Leighton Andrews mai ei “ymrwymiad tuag at ei etholwyr” oedd wedi arwain at yr anghydfod.
Fe ddaeth y cyhoeddiad yn annisgwyl ddiwedd y dydd heddiw ac mae’r gwrthbleidiau eisoes wedi ymateb.
‘Tanseilio’r Llywodraeth i gyd’
Yn ôl Plaid Cymru, roedd sefyllfa’r gweinidog wedi cael ei danseilio ac roedd hynny’n “tanseilio’r Llywodraeth i gyd”.
Fe ddywedodd eu llefarydd ar addysg, Simon Thomas, mai dyma’r penderfyniad iawn.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru Andrew R T Davies: “Yn dilyn methiant Carwyn Jones i gefnogi’r Gweinidog Addysg yn ystod sesiwn holi’r Prif Weinidog heddiw roedd hi’n anochel bod yn rhaid iddo fynd.
“Mae gweithredoedd y Gweinidog Addysg dros Ysbyty Brenhinol Morgannwg a nawr, cau ysgolion, yn taflu amheuaeth ar ei feirniadaeth ond hefyd y Prif Weinidog ei hun.”
Ychwanegodd: “Fe fydd ei ymddiswyddiad yn ei alluogi i fynegi ei bryderon o’r meinciau cefn ond nid yw’n newid polisïau niweidiol Llywodraeth Carwyn Jones, yn enwedig iechyd ac addysg.”
Ymateb trydar
Mae ACau ac ASau wedi bod yn Trydar ers y cyhoeddiad.
Dywedodd Llyr Gruffydd, AC Plaid Cymru: “Mi alla’i dybio nad yw Carwyn Jones yn edrych mlaen at gael Leighton Andrews yn creu helynt o’r meinciau cefn. Roedd eisoes yn edrych dros ei ysgwydd.”
Yn ol yr AS Ceidwadol Alun Cairns, Leighton Andrews oedd y “mwyaf disglair (er nad oeddwn yn cytuno ag ef) yn Llywodraeth Cymru. Sut fydd Carwyn Jones yn ymdopi nawr?”
“Mae ’na lawer o athrawon hapus iawn yng Nghymru heno,” meddai AC Plaid Cymru Bethan Jenkins cyn gofyn, “Tybed a gafodd Leighton Andrews ei wthio neu mynd o’i wirfodd?”
Dywedodd David Rees, AC Llafur Aberafon, ei fod yn “hynod siomedig” am benderfyniad y Gweinidog Addysg i ymddiswyddo. “Roedd yn llais cryf ar addysg yng Nghymru a’r DU,” meddai.
Mae na ddyfalu eisoes ynglyn a phwy fydd yn olynu Leighton Andrews. Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd yw’r enw sy’n cael ei grybwyll gan rai.