Mae cwmni Gelert wedi cael ei werthu i Sports Direct International.
Fe fydd y cytundeb yn diogelu tua 100 o swyddi gyda’r cwmni offer awyr agored yng Nghymru a’r gogledd ddwyrain.
Cafodd y gweinyddwyr Grant Thornton eu penodi ar 21 Mehefin ar ôl i’r cwmni wneud colledion, a chafodd y cytundeb ei gwblhau yn fuan wedyn.
Cafodd Gelert ei sefydlu yng Nghymru ym 1975 ac mae gan y cwmni siopau ym Mhorthmadog, Beddgelert, Caernarfon a Betws y Coed yn ogystal â siop yn Nulyn a Haydock. Mae pencadlys y cwmni yn Widnes.
Yn 2011 fe symudodd safle ddosbarthu Gelert o Borthmadog i Widnes gan olygu bod 100 o weithwyr yno wedi colli eu swyddi.
Sports Direct yw’r cwmni offer chwaraeon mwyaf ym Mhrydain.