Mick Philpott a'i wraig Mairead
Mae Mick Philpott, a gafwyd yn euog o ladd chwech o’i blant mewn tan mewn tŷ yn Derby, yn wynebu ymchwiliad i honiadau ei fod wedi treisio dwy fenyw.

Mae disgwyl i swyddogion o Heddlu Swydd Derby gyfweld Philpott yn y carchar ynglŷn â’r honiadau.

Cafodd Philpott a’i wraig, Mairead, eu carcharu ym mis Ebrill ar ôl eu cael yn euog o ladd eu chwe phlentyn trwy gynnau tan yn fwriadol yn eu cartref yn Derby.

“Gallwn gadarnhau fod swyddogion o Heddlu Swydd Derby yn gwneud ymholiadau i honiadau o droseddau pellach a gyflawnwyd gan Mick Philpott,” meddai Heddlu Swydd Derby mewn datganiad.

“Daeth yr honiadau hyn i’r amlwg yn ystod yr ymchwiliad i’r tân ym mis Mai’r llynedd, lle bu farw ei blant.”

Fe wrthododd llefarydd ar ran yr heddlu roi rhagor o fanylion ynglŷn â’r ymchwiliad newydd, ond dywedodd bod un o’r dioddefwyr honedig wedi dweud wrth swyddogion bod Philpott wedi ei threisio mewn carafán yn ei ardd.

Adroddodd y Daily Mirror bod yr ail beron wedi honni bod Philpott wedi ymosod arni mewn tŷ yn Derby ym mis Mawrth 1996.