Rhun ap Iorwerth
Bydd Rhun ap Iorwerth yn cael gwybod heddiw os yw’n cael ceisio bod yn ymgeisydd Plaid Cymru ar Ynys Môn.

Mae llefarydd ar ran Plaid Cymru wedi dweud wrth Golwg360 eu bod nhw wedi dilysu dau o aelodau’r Blaid i geisio am sedd Ieuan Wyn Jones yn y Cynulliad.

Mae Golwg360 ar ddeall bod cyfweliad Rhun ap Iorwerth yn un o’r rhai a gafodd eu dilysu a bod ei gyfweliad yn cael ei gynnal heddiw.

Cyhoeddodd Ieuan Wyn Jones, yr AC presennol, wythnos diwethaf  ei fod yn gadael y Cynulliad er mwyn dechrau swydd fel Prif Weithredwr Parc Gwyddoniaeth Menai.

Gan bod yr is-etholiad yn debygol o fod ym mis Gorffennaf, mae hi’n ras i ddewis ymgeisydd  Plaid Cymru a bydd yr hystings yn digwydd ddydd Iau.

Dros y penwythnos mynegodd Rhun ap Iorwerth ei ddiddordeb gan roi’r gorau i’w swydd fel newyddiadurwr gyda’r BBC.

Person arall sydd wedi mynegi diddordeb yw Heledd Fychan er ei bod hi wedi bwriadu sefyll yn erbyn Sian Gwenllian yn y gobaith o gael ei henwebu yn ymgeisydd yn Arfon pan fydd Alun Ffred Jones yn rhoi’r gorau iddi yn yr etholiad nesaf.

Mae blog glweidyddol Blog Menai yn disgwyl i un o gynghorwyr Môn ymgeisio hefyd ond does dim cadarnhad o hynny ar hyn o bryd.

Cyn i’r aelodau allu ymgeisio i gael eu henwebu mae’n rhaid iddyn nhw gael eu dilysu gan bwyllgor gwaith y Blaid a mynychu cyfweliad. Yna byddan nhw’n cymryd rhan mewn hustings o flaen aelodau’r Blad yn yr etholaeth a fydd yn pledleisio dros eu ffefryn.