Leanne Wood
Mae Plaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru heddiw wedi cyhoeddi y byddan nhw’n dod ynghyd i drafod cyllideb y flwyddyn nesaf gyda Llywodraeth Cymru.
Bydd arweinyddion y pleidiau, Leanne Wood a Kirsty Williams yn dod at ei gilydd i drafod cytundeb ar sail eu cyd-flaenoriaethau, er mwyn “cael y gorau i bobl Cymru.”
Dywedodd y ddwy arweinydd mai’r economi, addysg ac iechyd fydd eu blaenoriaethau wrth iddyn nhw weithio i sicrhau bargen fydd “yn cyflwyno canlyniadau i bobl Cymru.”
Yn dilyn cyhoeddi cyllideb ddrafft y flwyddyn nesaf, bydd cynrychiolwyr y pleidiau yn gwrthod trafod gyda Llywodraeth Cymru oni bai bod hyn yn cael ei wneud ar y cyd.
Kirsty Williams
‘Sefyllfa gref i fargeinio’
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood: “Mae Plaid Cymru yn benderfynol o roi’r fargen orau i bobl Cymru. Bydd gweithio gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ein rhoi mewn sefyllfa gref i fargeinio er mwyn gorfodi’r llywodraeth i gymryd camau a fydd yn hybu’r economi, yn ymdrin â’u methiannau ym maes iechyd, a gwella safonau yn ein hysgolion.”
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams: “Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi dweud yn gyson na fyddwn yn cefnogi cyllideb nad yw’n symud tuag at gau’r bwlch cyllido gyda Lloegr – gan ddechrau gyda’r plant tlotaf sydd angen help fwyaf.
“Wnawn ni ddim pleidleisio chwaith dros gyllideb sydd yn esgeuluso’r angen i fynd i’r afael â diweithdra a hybu’r economi… Mae’r argyfwng cynyddol yn ein GIG yn broblem y byddwn eisiau ei thrin hefyd.
“Rwyf yn falch y gallwn weithio gyda Phlaid Cymru i geisio sicrhau cyllideb fydd yn gwasanaethu Cymru gyfan. Trwy weithio gyda’n gilydd, yr ydym yn gobeithio cael y gorau i bobl Cymru.”