Tate Britain
Mae arddangosfa o waith yr arlunydd LS Lowry, sy’n cynnwys tirweddau diwydiannol trefi glofaol de Cymru, yn agor yn Tate Britain yfory.
Daw’r arddangosfa yn dilyn blynyddoedd o feirniadaeth dros agwedd y sefydliad celf tuag at yr arlunydd poblogaidd a aned yn Swydd Gaerhirfryn.
Mae ei waith yn gwerthu am brisiau mawr mewn arwerthiannau ond dyw’r artist erioed wedi cael ei dderbyn gan y sefydliad. Mae’r Tate wedi cael ei gyhuddo gan rai o gefnogwyr LS Lowry, gan gynnwys yr actor Syr Ian McKellen a’r canwr Noel Gallagher, o anwybyddu’r artist.
Bydd yr arddangosfa newydd yn cynnwys mwy na 90 o’i ddarluniau a dyma’r arddangosfa gyntaf o’i waith i gael ei chynnal mewn oriel fawr yn Llundain ers ei farwolaeth ym 1976.
Mae’r artist yn adnabyddus am ei dirluniau diwydiannol llwm a darluniau o fywyd dosbarth gweithiol mewn trefi yng ngogledd Lloegr.
Mae ei waith yn cynnwys golygfeydd o gemau pêl-droed, gorymdeithiau protest, ffeiriau, gweithwyr yn mynd i ac o’r melinau, simneiau ffatri yn chwydu mwg, angladdau a hyd yn oed hunanladdiad.
Ond yn ogystal â’r golygfeydd o dirweddau diwydiannol gogleddol bydd yr arddangosfa hefyd yn dangos ei luniau o drefi glofaol Cymru, fel Bargoed (1965).
Yn y 1960au, roedd LS Lowry wedi ymweld â de Cymru sawl gwaith gyda’i gyfaill, a chasglwr brwd o’i waith, Monty Bloom.
Fe wnaeth y pentrefi glofaol newydd ail gynnau ei ddiddordeb yn y panorama diwydiannol fel pwnc ar gyfer ei waith ond yn wahanol i ogledd Lloegr roedd pentrefi glofaol Cymru yn ysgogi lluniau oedd yn cyfuno ymdeimlad o fywyd trefol mewn amgylchedd gwledig.
Bydd Lowry And The Painting Of Modern Life ar agor o 26 Mehefin – 20 Hydref yn Tate Britain yn Llundain.