Jamie Barton
Mezzo-soprano o’r Unol Daleithiau sydd wedi ennill teitl Canwr y Byd Caerdydd eleni.
Fe gurodd Jamie Barton bedwar arall yn y rownd derfynol yn Neuadd Dewi Sant neithiwr i gipio’r teitl a gwobr ariannol o £15,000.
Roedd Jamie Barton o Georgia yn cystadlu yn erbyn soprano o’r Eidal Teresa Romano, bas bariton o Groatia Marko Mimica, mezzo soprano o’r Ariannin Daniela Mack, a soprano o’r Wcrain Olena Tokar.
Cafodd y tlws ei gyflwyno gan un o’r beirniaid a noddwr y gystadleuaeth, y Fonesig Kiri Te Kanawa.
Mae Cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd yn cael ei chynnal bob dwy flynedd yn Neuadd Dewi Sant ac yn cael ei threfnu gan y BBC. Roedd hi’n dathlu ei phen-blwydd yn 30 eleni.
Mae hi’n cael ei chydnabod fel un o’r prif lwyfannau i gantorion opera a chyngerdd ar gychwyn eu gyrfaoedd.
Roedd Gary Griffiths o Sir Gaerfyrddin yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth nos Fercher ond ni lwyddodd i gyrraedd y rownd derfynol.