Heddiw, mae prosiect digidol o’r enw DymaFi.tv yn gofyn i bobol ifanc yng Nghymru ffilmio rhan o’u diwrnod, a bod yn rhan o ffilm fwy.

Fe all y fideos gael eu creu ar ffonau clyfar, camcorder neu gamerâu digidol, a dylid eu llwytho wedyn i wefan DymaFi.tv.

Mi all y clipiau fod unrhyw hyd rhwng 30 eiliad a hanner awr, ac yn dangos unrhyw agwedd o’i bywydau – eu diddordebau, ffrindiau, teuluoedd, cartrefi, hoff lefydd, eu cas a’u hoff bethau.

Bydd pawb sy’n anfon fideo i mewn rhwng 13 ac 18 oed, â chyfle i ennill iPad ac mae posibilrwydd hefyd y bydd eu clip yn ymddangos mewn ffilm ar S4C nes ymlaen yn y flwyddyn.

Ffilmio beth?

Sut beth yw bywyd i bobl ifainc yng Nghymru heddiw? Mae DymaFi.tv yn gobeithio dod o hyd i’r ateb.

Uchafbwynt prosiect DymaFi.tv yw ffilm awr a gaiff ei dangos ar S4C yn yr hydref. Y gobaith felly yw y bydd y ffilm, fydd yn gyfuniad o glipiau’r bobl ifanc wedi ei gynhyrchu yn broffesiynol, yn rhoi darlun gwir a gonest o fywydau pobl ifanc Cymru heddiw – yn eu geiriau, neu eu ffilmiau eu hunain.

Bydd gwefan DymaFi.tv yn parhau i fod yn siop-un-stop ar gyfer yr holl glipiau hyn, hyd yn oed ar ôl i’r ffilm gael ei darlledu.