Michael Jackson - roedd ei gorff yn diodde' oherwydd diffyg cwsg
Roedd y canwr, Michael Jackson yn diodde’ o ddiffyg cwsg – a dyna oedd i gyfri’ am ei anallu i ddysgu geiriau ei ganeuon a chamau dawnsfeydd newydd.

Dyna farn arbenigwr ar gwsg, Charles Czeisler, wrth roi tystiolaeth yn y llys ddoe.

Mae wedi astudio’r modd yr oedd Jackson yn colli pwysau, yn ymateb yn baranoid i sefyllfaoedd, ac yn dirywio’n gyffredinol. Mae’r pethau hynny i gyd yn gyson â rhywun sydd heb gael noson dda o gwsg ers amser.

Ac mae Czeisler yn dweud fod y canwr ddim yn cysgu oherwydd ei fod yn defnyddio’r lladdwr poen, propofol, yn gyson – cyffur oedd yn ei roi mewn coma, yn hytrach nac yn gwneud i’w gorff fynd i gysgu.

Fe fyddai defnyddio cymaint o’r cyffur wedi byrhau oes Michael Jackson, meddai’r arbenigwr wedyn.