Mae dyn o Gaerdydd wedi ei wahardd rhag cadw cwn am bum mlynedd wedi iddo fethu a chydymffurfio â Gorchymyn Rheoli Cŵn.
Cafodd Robert Campbell, o’r Rhath, Caerdydd, Orchymyn Rheoli Cŵn ym mis Mehefin 2012, ac fe’i rhybuddiwyd y dylai ei gi, Buster, gael ei gadw dan reolaeth briodol gyda thennyn a phenfar mewn mannau cyhoeddus.
Fe fethodd Campbell, 45 oed, â chydymffurfio ag amodau’r gorchymyn ac roedd wedi ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ar 31 Mai 31.
Fe’i cafwyd yn euog o fod yn gyfrifol am gi a oedd allan o reolaeth ac yn beryglus yn Waunadda ar 17 Tachwedd, a methu a chydymffurfio a’r gorchymyn.
‘Dychryn’
Dywedodd PC Mike Neate, Swyddog Cymdogaeth Y Sblot :“Roedd y ci wedi dychryn aelodau’r gymuned, ac anaml y gwelwyd y ci ar dennyn a phenfar ac roedd swyddogion yn teimlo na allen nhw ymweld â chartref Robert Campbell rhag ofn cael eu brathu.
“Fe wnaethom y cais am y gorchymyn er mwyn amddiffyn y cyhoedd ac i roi’r cyfle i Mr Campbell gymryd rheolaeth briodol o’i gi.
“Yn anffodus, nid oedd yn gallu cadw at yr amodau, ac felly fe wnaeth y llys ei wahardd rhag cadw cŵn, a hefyd bu gorchymyn i ddinistrio Buster.”
Cafodd Campbell ddirwy o £200 a gorchymyn i dalu £620 o gostau.