Fe fydd pedwar o bobl yn mynd gerbron llys heddiw ar gyhuddiad o atal corff dyn rhag cael ei gladdu.
Nid yw Geoffrey Howard Sturdey o Dregaron yng Ngheredigion wedi cael ei weld ers mis Hydref, 2008.
Roedd Heddlu Dyfed-powys wedi arestio’r pedwar ar ôl i’r Adran Waith a Phensiynau fynegi pryderon amdano. Roedd Geoffrey Sturdey yn 60 ar y pryd.
Mae’r heddlu’n awyddus i gael unrhyw wybodaeth am Geoffrey Sturdey, oedd yn byw yn Beth Berith yn Llwyn-y-groes.
Fe fydd Rebekah Sturdey, 56; Boque Ore Adie, 43; Hazel Adie, 20; a Karmel Adie, 25, i gyd yn ymddangos gerbron llys ynadon Hwlffordd heddiw.