Heledd Fychan (Llun: Twitter)
Mae Heledd Fychan wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi ei henw ymlaen ar gyfer is-etholiad Ynys Môn.
Roedd wedi bwriadu sefyll yn erbyn Sian Gwenllian yn y gobaith o gael ei henwebu yn ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Arfon.
Cyhoeddodd heno y bydd yn rhoi ei henw ymlaen am Fôn pan fydd yr enwebiadau yn agor, yn y gobaith o gael ei dewis i ymladd yr is-etholiad.
“Maen nhw’n dweud bod wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth. Mae hynny’n sicr yn wir am wythnos yma,” meddai ar ei blog.
“Pan roddais fy enw i mewn yn Arfon i gael fy ystyried fel ymgeisydd Plaid Cymru yn etholiad y Cynulliad yn 2016, doedd dim awgrym na fyddai Ieuan Wyn Jones yn sefyll ym Môn eto.
“Fel yr ydym bellach yn gwybod, mae’r sefyllfa wedi newid yn syfrdanol o sydyn ac mae is-etholiad ar y gorwel yn fuan yn dilyn ei ymadawiad disymwth ddoe.
“Ar ôl dwys ystyried, ac ar ôl derbyn nifer o negeseuon o gefnogaeth gan aelodau Ynys Môn, teimlaf fod yn rhaid imi ddilyn fy nghalon. Rwyf wedi penderfynu tynnu fy enw o’r ras am Arfon ac ymroddi’n llwyr i geisio cael fy newis i sefyll ar ran y Blaid yn is-etholiad Ynys Môn.
“Mae’n ddrwg gen i siomi’r nifer o bobl yn Arfon oedd wedi datgan eu cefnogaeth imi, ond rwyf yn siwr y byddant yn deall fy nghyfyng gyngor a fy mhenderfyniad.
“Hoffwn ddymuno pob lwc i’r ymgeisydd sydd ar ôl yn y ras, Sian Gwenllian.”