Y sylwebydd a'r ticed (Llun: Stephen Edwards)
Fe aeth un o sylwebwyr ras lwyddiannus yng Nghaernarfon ddoe, gartref efo swfenîr anffodus – tocyn parcio gan warden traffig y dre’.
Roedd y rhedwr a’r cyn-DJ, Stephen ‘Weiran Gaws’ Edwards, wedi cyrraedd tre’r Cofis am 2.3o y bore, ddydd Sadwrn, er mwyn gwneud y trefniadau ar gyfer ras Etape Eryri.
O’r peth cynta’n y bore, fe fu 1,200 o feicwyr yn cymryd rhan mewn tair gwahanol ras, gyda phob un o’r rasus yn cychwyn ac yn gorffen ar Y Maes yng Nghaernarfon.
Ond, wrth lwytho lluniau o’r digwyddiad llwyddiannus ar ei dudalen Facebook, mae Stephen Edwards yn adrodd hanes y tocyn parcio…
Gweithio trwy’r nos
“Mi barciais i’r car mewn lle addas yn y maes parcio yn Tan-y-bont am 2.30 o’r gloch y bore, er mwyn setio i fyny,” meddai Stephen Edwards.
“Wedyn, mi anghofiais i fynd yn ôl i’r car, i’w symud ac ati, gan fy mod i mor brysur yn sylwebu… roedd gen i 1,200 o feicwyr i gyfeirio atyn nhw, doedd?
“Wedyn, mi welais i’r warden traffig ac mi ges i fy atgoffa… felly mi redais i at y car, efo fy meicroffôn, yn fyw, fel Anneka Rice, a gweld y tocyn melyn.”