Fe allai dathliad unigryw’r Cymro, Gareth Bale, wrth sgorio goliau i Spurs a Chymru, fod yn werth hyd at £3m iddo.

Mae’r chwaraewr 23 oed yn ceisio cofrestru ei hawl ar y dathliad, lle mae’n rhoi ei ddwylo at ei gilydd i greu siâp calon.

Mae wedi cyflwyno’r cais i’r Swyddfa Eiddo Deallusol, ac fe fydd tribiwnlys yn penderfynu yn ystod y misoedd nesaf a oes modd i’r ‘galon’ ddod yn logo a allai gynhyrchu llawer iawn o arian.

Unwaith mae e wedi cael yr hawl hwnnw, fe allai elwa ohono a dod yn chwaraewr eithriadol o adnabyddus a chyfoethog. Mae arbenigwyr yn rhagweld y gallai’r logo fod yn werth £3m y flwyddyn.

Teyrnged i’w wraig

Daeth y dathliad i’r amlwg am y tro cyntaf yn 2010, fel teyrnged gan Gareth Bale i’w wraig.

Ond, fe allai’r logo gael ei ddefnyddio ar ddillad, esgidiau, hetiau a gemwaith a llu o nwyddau eraill ar draws y byd.