Daeth gêm griced yn Sir Benfro i ben yn gynnar dros y penwythnos, ar ôl i rai o’r chwaraewyr gyhuddo’u gwrthwynebwyr o fod yn ‘wrth-Gymraeg’.
Cerddodd ail dîm Crymych oddi ar y cae yn ystod eu gornest yn erbyn Llandyfái ar ôl i gapten Llandyfái, Andrew Skeels ddangos ei ddicter bod un o chwaraewyr Crymych yn siarad Cymraeg gyda’r dyfarnwr.
Yn dilyn y ffrae, dywedodd clwb Crymych ar eu tudalen Trydar: “Diolch i bawb am y gefnogaeth. Cymraeg yw iaith y wlad ma, allwn ni siarad e pryd ni am, yn unrhyw le ni am.”
Yn ddiweddarach, fe ychwanegon nhw: “Ni’n byw yng Nghymru a siaradwn ni be ni am”.
Mae Clwb Criced Llandyfái wedi cadarnhau wrth golwg360 y bydd swyddogion y clwb yn cyfarfod heno i drafod y mater.
Fe gysylltodd golwg360 gyda’r Gynghrair hefyd, ond maen nhw’n gwrthod dweud dim am yr hyn ddigwyddodd.