Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi arwyddo’r batiwr o Seland Newydd, Nathan McCullum ar gyfer y gystadleuaeth T20.

Mae McCullum yn frawd i gyn-fatiwr Morgannwg, Brendon, fu’n chwarae i’r sir yn 2006.

Eisoes, fe fu’n chwarae mewn pum cystadleuaeth Cwpan y Byd, ac mae’n aelod o garfan bresennol ei wlad sy’n cystadlu yn Nhlws Pencampwyr ICC.

Yn ogystal â batio, mae e’n droellwr dawnus.

Cafodd ei enwi’n seren y gêm yn erbyn Sri Lanka yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf.

Mwynhau

Dywedodd: “Rwy wedi treulio tipyn o amser yng Nghaerdydd yn ystod yr wythnosau diwethaf ac rwy wedi mwynhau chwarae yn Stadiwm SWALEC.

“Mae troellfowlio’n chwarae rhan bwysig yn y T20 ac rwy’n gobeithio gallu helpu’r tîm i gyrraedd y rowndiau terfynol.

“Rwy’n edrych ymlaen at ymuno â charfan Morgannwg ar ddiwedd y mis.”

T20

Fe fydd y gystadleuaeth yn dechrau ddiwedd Mehefin gydag ymweliad â Chaerwrangon, cyn i Forgannwg groesawu Swydd Warwick i Gaerdydd ar Orffennaf 3.