Jamie Roberts
Mae yna amheuon a fydd y canolwr o Gymru, Jamie Roberts, yn holliach ar gyfer prawf cynta’r Llewod yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn.
Fe gafodd y Cymro 26 oed anaf i’w goes yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn New South Wales Warratahs.
Gallai Cymro arall, Jonathan Davies gymryd ei le pe na bai’n llwyddo i wella erbyn y penwythnos.
North yn holliach
Ond mae newyddion gwell i’r Llewod, wrth i George North ddisgwyl chwarae.
Roedd e wedi tynnu llinyn y gâr ac fe fu’n rhaid iddo fethu’r ornest yn erbyn y Warratahs.
Fe fydd y Llewod yn herio’r Brumbies yn ninas Canberra fory, ac fe fydd y tîm prawf yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau.