Fe fydd S4C yn darlledu gêm fawr nesa’ tîm rygbi dan-20 Cymru ym Mhencampwriaeth Ieuenctid y Byd 2013 nos fory.

Mae’r Cochion wedi ennill pob un o’u gemau yn y gystadleuaeth – yn erbyn Samoa, Yr Alban a’r Ariannin – i sicrhau eu lle ymhlith y pedwar tîm gorau yn y byd. Dim ond un gêm, ac un tîm, sy’n sefyll rhyngddyn nhw â’r rownd derfynol.

De Affrica yw eu gwrthwynebwyr yn Stade de la Rabine, Vannes yn Ffrainc ar gyfer y rownd gynderfynol fawr ar brynhawn Mawrth, 18 Mehefin. Fe fydd y gêm i’w gweld yn fyw ar S4C, y gic gynta’ am 5.15yp.

Sarra Elgan, Lyn Davies a Rhodri Gomer Davies sy’n cyflwyno.  

“Maen nhw wedi gwneud yn arbennig o dda yn y tair gêm: yn sicrhau pwynt bonws yn erbyn Samoa, ac ennill mewn prawf anodd iawn yn erbyn Yr Ariannin,” meddai’r cyn-ganolwr proffesiynol, Rhodri Gomer Davies.

“Fe all Cymru dynnu hyder o’r ffaith fod Yr Ariannin wedi curo De Affrica yn barod eleni yn ystod eu paratoadau ar gyfer y gystadleuaeth hon.

“A dw i’n siŵr eu bod nhw’n bles nad oes rhaid iddyn nhw wynebu’r Crysau Duon eto. 

“Mi allan nhw fod yn hyderus iawn, ac ar adegau maen nhw wedi dangos y math o rygbi maen nhw yn gallu chwarae – gyda Rhodri Williams, Jordan Williams ac Hallam Amos yn dangos beth maen nhw’n gallu ei wneud. Dw i’n hyderus y gallan nhw guro De Affrica.”

Mae gemau ola’r gystadleuaeth yn cael eu chwarae ddydd Sul.